Bill de Blasio (llun cyhoeddus)
Am y tro cynta’ ers 20 mlynedd, mae Democrat wedi cael ei ethol yn Faer ar ddinas Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau.

Fe enillodd Bill de Blasio’n gyfforddus gydag ymgyrch ryddfrydol a oedd yn pwysleisio’r angen i drethu’r cyfoethog.

Fe wnaeth ei araith ennill yn Sbaeneg yn ogystal â Saesneg, gan addo na fyddai’r un o drigolion y ddinas yn “cael ei adael ar ôl”.

Mae ei gyfnod mewn grym yn debyg o fod yn wahanol iawn i’r 12 mlynedd a gafodd ei ragflaenydd, y biliwnydd Michael Bloomberg.