Siteserv - llun cyhoeddusrwydd o'u gwefan
Fe allai tân a ddechreuodd mewn gwaith ailgylchu ym Mro Morgannwg losgi am ddau ddiwrnod.
Cafodd y frigâd dan ei galw i’r gwaith ailgylchu yn Llandŵ ger y Bont-faen neithiwr ond dyw achos y tan ddim yn hysbys ar hyn o bryd.
Mae adeilad Siteserv ar Stad Ddiwydiannol Llandŵ agos at faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2012.
Mae trigolion sy’n byw o fewn cylch o ddwy filltir i’r tân wedi cael cyngor i gadw eu drysau a’u ffenestri ynghau gan fod pryderon bod asbestos ar do’r adeilad.
Roedd hyd at 45 o ddiffoddwyr tân yn y fan a’r lle pan oedd y tân yn ei anterth neithiwr ond dyw’r achos ddim yn glir eto, meddai Heddlu De Cymru.
Meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Brys De Cymru: “Mae’r gwasanaeth tân yn parhau i fod yno ac mae disgwyl i’r tân losgi am hyd at ddau ddiwrnod.”
Meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae diffoddwyr yn parhau i frwydro’r tân ar hyn o bryd ac mae’n debygool y bydd rhagor o ddiffoddwyr yn cael eu hanfon yno ar ôl 9:00 y bore ma.”