Palas Buckingham (David Liff CC-BY-SA 3.0)
Heidiodd cannoedd o brotestwyr mewn mygydau Guto Ffowc at Balas Buckingham a Sgwâr y Senedd neithiwr, yn rhan o ymgyrch fyd-eang yn erbyn toriadau llym gan lywodraethau.

Roedd y protestiadau yn gysylltiedig â’r grŵp hacio cyfrifiaduron Anonymous ac roedd cynlluniau i gynnal protestiadau mewn 477 o lefydd ar draws y byd.

Cafodd tân ei gynnau o flaen giatiau Palas Buckingham ac fe gafodd poteli gwydr eu taflu yn ystod gwrthdaro gyda’r heddlu. Cafodd Colofn Nelson yn Sgwâr Trafalgar hefyd ei difrodi.

Yn ôl Scotland Yard, roedd 11 o bobol wedi cael eu harestio .

Dywedodd AS Y Blaid Werdd, Caroline Lucas, ar Twitter ei bod wedi ymuno â’r brotest y tu allan i’r Senedd yn gynharach yn y dydd a chafodd y digrifwr Russell Brand ei weld mewn protest y tu allan i Stryd Downing hefyd.

Noson Guto Ffowc

Roedd y protestiadau yn cyd-daro â Diwrnod Tân Gwyllt, dathliad ymgais aflwyddiannus Guto Ffowc i ddinistrio Senedd Prydain gyda ffrwydron  ar 5 Tachwedd, 1605.

Mae’r dyddiad ac wyneb Guto Ffowc wedi cael eu mabwysiadu yn arwyddlun i’r mudiad Anonymous ac mae cefnogwyr yn cael eu hannog i wisgo mygydau sy’n edrych fel Guto Ffowc.