Lee Davies (Llun y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Roedd milwr o Aberteifi a gafodd ei saethu gan ddau blismon o Afghanistan wedi cael ei ladd yn anghyfreithlon meddai crwner.

Bu farw’r Is-gorporal Lee Davies , 27, pan gafodd ef a milwr arall eu saethu yng nghanolfan yr heddlu yn ardal Lashkar Gah yn nhalaith Helmand ar 12 Mai y llynedd .

Penderfynodd Crwner Swydd Rydychen, Darren Slater, bod y ddau wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon wrth eu gwaith.

Cysur

Dywedodd teulu Lle Davies mewn datganiad pa mor “hynod o falch” oedden nhw am ei wasanaeth a’u bod yn cael cysur yn nisgrifiad ei gyd filwyr ohono fel “milwr rhagorol”.

Wedi’r ymosodiad, cafodd un o’r rhai oedd yn gyfrifol  ei ddal a’i ladd gan blismyn Afghanaidd eraill tra bod yr ail wedi dianc and yn parhau i fod yn rhydd.

Y milwr arall oedd Brent McCarthy, 25, o Telford , Swydd Amwythig.