Y lun o 'Marco' sydd ar dudalennau Facebook Rhwydwaith Anarchaidd Caerdydd
Mae protestwyr o Gaerdydd ymhlith y rhai a fethodd gael achos llys agored yn erbyn plismyn a oedd wedi creu perthnasau personol clos gyda nhw wrth geisio tanseilio mudiadau protest.

Ddoe fe benderfynodd tri barnwr uchel lys y byddai achos hawliau dynol yn erbyn yr heddlu cudd yn cael ei gynnal mewn llys dirgel o’r enw y Tribiwnlys Pwerau Ymchwilio (IPT).

Mae ymgyrchwyr Caerdydd ymhlith deg o ferched sy’n dod ag achos yn erbyn y swyddogion a oedd wedi mynd i berthnasau rhywiol gyda rhai o’r protestwyr er mwyn casglu gwybodaeth a tharfu ar eu gwaith.

Y llys mwya’ dirgel

Mae’r grŵp wedi condemnio penderfyniad y barnwyr, gan ddweud ei fod yn “sarhad ar egwyddorion cyfiawnder naturiol”.

Fe gafodd yr IPT ei sefydlu i wrando ar achosion o ymyrraeth annheg gan wasanaethau cudd yr MI5 ac MI6. Mae wedi cael ei alw’n “llys mwya’ dirgel gwledydd Prydain”.

Ond does dim hawl i groesholi tystion nag i weld tystiolaeth mewn gwrandawiad o’r fath, na chael esboniad am ei benderfyniadau.

Y cefndir

Fe dreiddiodd plismon cudd dan yr enw ‘Marco’ i mewn i fudiad Rhwydwaith Anarchaidd Caerdydd ac yn ôl y mudiad ei hun, roedd wedi creu anhrefn yno a suro’r berthynas rhwng aelodau a’i gilydd.

Roedd hefyd weedi mynd yn agos iawn at rai o’r aelodau ac mae’r rheiny, medden nhw, bellach yn teimlo “brad personol anferth”.

Yr honiad yw fod ‘Marco’ wedi defnyddio ei le yn y Rhywdwaith i gysylltu gyda mudiadau protest eraill, gan gynnwys y grwpiau rhyngwladol oedd yn protestio yn erbyn cyfarfodydd gwledydd cyfoethog y G8.

Achosion eraill

Fe lwyddodd y protestwyr i ennill un elfen arall o’u hachos llys trwy gael yr hawl i ddod â hawliadau iawndal o dan gyfraith gyffredin, a hynny cyn y gwrandawiad o flaen yr IPT.

Mae’r rheiny’n cynnwys cwynion am ymosod, camymddwyn mewn swydd gyhoeddus, twyll ac esgeulustod.