Iain Duncan Smith
Dyw pobol sy’n wynebu delio gyda’r Credyd Cyffredinol ddim yn barod amdano a dyw Llywodraeth Prydain ddim yn cynnig digon o help iddyn nhw, meddai Cyngor ar Bopeth.

Sir y Fflint oedd un o’r ardaloedd lle buodd yr elusen yn ymchwilio i’r budd-dal newydd sy’n cael ei gyflwyno yno yn y gwanwyn.

Fe fydd pobol mewn peryg o fynd i drafferthion, meddai’r elusen, ond mae’r Llywodraeth wedi ymateb trwy gyhuddo CAB o godi ofnau’n ddiangen.

Mae’r taliad newydd yn cael ei ystyried yn brosiect allweddol gan y Gweinidog Gwaith a Phensyniau, Iain Duncan Smith ond mae’n cael ei gyflwyno’n arafach na’r disgwyl oherwydd problemau.

Y newid

Un taliad yw’r Credyd Cyffredinol  fydd yn disodli amrywiaeth o fudd-daliadau eraill; fe fydd yn cael ei dalu unwaith bob mis a’r elfen rhent yn mynd i’r tenantiaid, yn hytrach nag i’r landlordiaid fel y mae ar hyn o bryd.

Mae wedi dechrau cael ei gyflwyno mewn cynlluniau peilot yn Lloegr ac ardal Shotton a Sir y Fflint fydd un o’r ardaloedd nesa’ yn y gwanwyn.

Y problemau, yn ôl CAB

Yn ôl Cyngor ar Bopeth, mae eu sgyrsiau gyda 1,000 o bobol yn yr ardaloedd hynny yn dangos problemau mawr, gyda hanner yn dweud nad oedden nhw’n barod ar gyfer y newid:

  • Roedd 49% yn disgwyl cael trafferth gyda’r ffurflenni.
  • Doedd gan 47% ddim rhyngrwyd gartref.
  • Doedd gan 22% ddim o’r adnoddau bancio angenrheidiol.
  • Dyw 83% ddim yn barod ar gyfer gorfod trefnu eu harian fesul mis.
  • Fe fyddai 75% yn hoffi gweld eu rhent yn dal i fynd i’r landlord.

Beirniadaeth yr elusen

“Mae’r syniad o un credyd cyffredinol yn un da, ond mae’r ddarpariaeth wael, aneglur yn beryg mawr i les ein cleientiaid,” meddai’r elusen.

“All Gweinidogion ddim gwthio’r problemau hyn o’r neilltu … os na fydd Gweinidogion yn mynd i’r afael â’r problemau amlwg hyn, mae yna beryg gwirioneddol y bydd pobol yn cael eu gadael heb y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac yn methu â thalu biliau.”

Ymateb y Llywodraeth

Mae Llywodraeth Prydain wedi pwysleisio y bydd yna gymorth ar gael, wrth iddyn nhw gydweithio gyda chynghorau lleol a “phartneriaid” fel Cyngor ar Bopeth.

Dyma ddywedodd yr Adran Waith a Phensyniau mewn datganiad: “Trwy fethu â chydnabod bod y cymorth dwys yma ar gael i hawlwyr, mae CAB mewn peryg o godi ofnau ac achosi pryder diangen.”