Mabon ap Gwynfor
Mae Mabon ap Gwynfor wedi cyhoeddi ei fod am roi ei enw ymlaen i olynu Elfyn Llwyd fel ymgeisydd seneddol yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd.

Cyhoeddodd y newyddion ar ei gyfrif twitter heno.

“Ar ol trafod yn hir efo’r teulu rwy wedi rhoi fy enw ymlaen ar gyfer enwebiad y Blaid yn Nwyfor Meirionnydd i olynu Elfyn Llwyd.”

Mae’r newyddion yn dilyn cyhoeddiad ddoe gan Liz Saville Roberts ei bod hithau’n bwriadu cystadlu am enwebiad y blaid yn yr etholaeth.

Mae Mabon ap Gwynfor ar hyn o bryd yn Rheolwr Swyddfa a Phrif Ymchwilydd i Llyr Gruffydd AC.