Fe fydd pobol Gweriniaeth Iwerddon yn cael pleidleisio ynglŷn â chaniatáu priodasau hoyw.

Fe fydd y bleidlais yn digwydd yn 2015, a hynny bum mlynedd ers caniatáu partneriaethau sifil ac 20 mlynedd ers i berthnasau hoyw ddod yn gyfreithlon.

Mae ymgyrchwyr hawliau hoyw a hawliau dynolwedi croesawu’r newydd gan ddweud ei fod yn gam hanesyddol arall.

Cabinet Llywodraeth y Weriniaeth a benderfynodd gynnal y bleidlais ar ôl argymhelliad gan Gomisiwn Cyfansoddiadol.

Mae 1,500 o gyplau wedi cael partneriaethau sifil yng Ngweriniaeth Iwerddon ers 2010.