Mae pedwar milwr, yn cynnwys dau wrthwynebydd al-Qaida, wedi cael eu lladd yng ngogledd Irac. Fe gawson nhw eu saethu’n farw.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad cynta’ yn gynnar fore Sadwrn pan ddaeth dynion arfog mewn car cyflym a saethu at ddau filwr ac anafu pedwar arall a oedd yn gwarchod tsiecbwynt yn ninas Samarra.
Mae heddlu wedi cadarnhau hefyd iddyn nhw ddod o hyd i gyrff dau aelod o’r heddlu a gafodd eu saethu yn eu pennau mewn tre’ i’r gogledd o ddinas Mosul.