Mae merch a mab-yng-nghyfraith cwpwl oedrannus a ddiflannodd 15 mlynedd yn ol, wedi cael eu cadw yn y ddalfa wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth.

Fe ddiflannodd William a Patricia Wycherley o’u cartre’ yn Mansfield yn 1998. Ond y mis diwetha’, fe ddaeth plismyn o hyd i ddau gorff wedi’u claddu yng ngardd gefn ty yn y dre’. Mae profion yn parhau i geisio adnabod y cyrff.

Neithiwr, fe gafodd merch y cwpwl, Susan Patricia Edwards, 55, a’i gwr, Christopher John Edwards, 57, eu cyhuddo o ddau achos o lofruddiaeth.

Maen nhw wedi ymddangos yn Llys Ynadon Nottingham heddiw, ac wedi’u cadw yn y ddalfa.