Afon Elwy yn Llanfair Talhaearn
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio ar ôl i ddyn gael ei weld fel petai’n cyflawni troseddau pysgota yn Afon Elwy yn Llanfair Talhaearn ger Abergele.
Roedd y swyddogion yn amau eu bod wedi gweld y dyn ddydd Iau (Hydref 31) yn pysgota ar lwybr pysgod ger canol y pentref, sy’n cael ei wahardd yn llwyr.
Mae’r dyn, 20 oed ac o ardal Conwy, wedi’i riportio am y troseddau tra bo Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio ymhellach.
Yn ôl llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae yna reolau i amddiffyn rhywogaethau pwysig fel eogiaid a sewin. Gall eu rhwystro rhag cyrraedd eu mannau silio i fyny’r afon effeithio ar boblogaethau’r pysgod pwysig yma yn y dyfodol.
“Nid yn unig mae’r rhain yn rhan hanfodol o’r amgylchedd naturiol, maen nhw hefyd â rhan yn economi’r ardal ac yn denu genweirwyr i bysgota yn yr afonydd rhyfeddol sydd yma yng ngogledd Cymru.”