Mae gwraig oedd yn gweithio fel ymchwilydd twyll i’r Adran Gwaith a Phensiynau, wedi cael dedfryd o garchar wedi’i ohirio – a hynny am helpu ei gŵr i dwyllo Cyllid a Thollau ei Mawrhydi.
Roedd Elizabeth Lewis, 38, o’r Porth yn Y Rhondda, wedi helpu Mark Lewis, 40 i hawlio £885,000 ar gam.
Ddoe, fe glywodd Llys y Goron Abertawe ei fod wedi hawlio Rhodd Gymorth ar roddion ffug i elusen oedd yn mynd a phlant tlawd ar wyliau.
Mae Mark Lewis wedi ei garcharu am bedair blynedd.