Mae’r heddlu sy’n gwarchod ffiniau Canada wedi dod o hyd i syrpreis gwahanol mewn pwmpenni Calan Gaeaf eleni.
Mae’r awdurdodau’n credu fod tair pwmpen a ganfuwyd ym magiau teithwraig ym Maes Awyr Rhyngwladol Trudeau yn Montreal, wedi’u stwffio gydag oddeuto 2kg (4.4 pwys) o’r cyffur cocên.
Roedd peiriannau sganio’r maes awyr wedi dangos fod yna rywbeth anghyffredin y tu mewn i’r pwmpenni… a phan gafodd y llysiau eu harchwilio, fe ddaethpwyd o hyd i sachau bychain o gocên.
Dyw’r awdurdodau ddim yn dweud eto p’un ai teithio i mewn i’r wlad neu allan o Ganada oedd y deithwraig.