Mae grwp o tua 20 o eithafwyr croenwyn yn Ne Affrica wedi’u carcharu am rhwng 5 a 35 mlynedd yr un, yn dilyn yr achos cynta’ o frad yn y wlad ers i’r system apartheid ddod i ben.

Fe gafwyd aelodau o grŵp Boeremag yn euog y llynedd o gynllwynio i ddymchwel llywodraeth y wlad.

Fe gafwyd rhai aelodau Boeremag hefyd yn euog o ddynladdiad a chynllwynio i lofruddio y cyn-arlywydd, Nelson Mandela.

Parodd yr achos llys ddegawd. Mae’r Barnwr, Eben Jordaan, newydd gyhoeddi’r dedfrydau heddiw.