Mae dwsinau o bobol wedi’u hanafu wrth i drais ymledu yn Bangladesh heddiw, ar ddiwrnod ola’ streic dridiau.
Mae protestwyr yn ceisio gorfodi’r prif weinidog i ymddiswyddo.
Fe gafodd 15 o bobol eu lladd dros y Sul, ac mae galwadau bellach ar i’r llywodraeth a’r wrthblaid i geisio datrys yr anghydfod trwy drafod.
Mae bomiau wedi bod yn ffrwydro ar hyd a lled y wlad, gan anafu heddwas yn y brifddinas, Dhaka.
Mae’r anghydfod – sy’n mynd yn ôl ddegawdau – rhwng y Prif Weinidog, Sheikh Hasina, ac arweinydd yr wrthblaid, Khaleda Zia.