Mae’r storm sydd wedi effeithio ar dde Cymru a de Lloegr wedi cyrraedd Ffrainc a’r Iseldiroedd gan achosi llifogydd a difrod i adeiladau.

Fe fu farw menyw yn Amsterdam wed i goeden gwympo arni.

Mae miloedd o gartrefi yng ngogledd-orllewin Ffrainc heb drydan, ac mae nifer o reilffyrdd yn yr Iseldiroedd wedi eu cau yn dilyn y storm.

Mae dinasyddion yr Iseldiroedd wedi eu rhybuddio na ddylen nhw fynd ar eu beiciau, ac mae gorsaf rheilffordd Amsterdam wedi cau yn dilyn difrod gafodd ei achosi gan y gwyntoedd cryfion.