Eisteddfod Genedlaethol Llanelli fydd un o’r prif ddigwyddiadau lle bydd cyfle i nodi canmlwyddiant ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf y flwyddyn nesa’.

Er hynny, pan gysylltodd golwg360 â Phrif Weithredwr y brifwyl, Elfed Roberts, doedd o ddim yn gwybod dim am y peth.

Ond, yn ôl datganiad swyddogol o Swyddfa Cymru heddiw, fe fydd dydd Llun Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 yn cynnwys “cyfres o ddigwyddiadau wedi eu seilio ar thema’r Rhyfel Mawr”.

Fel mae’n digwydd, mae’r dydd Llun hwnnw yn syrthio ar Awst 4, ganrif i’r diwrnod ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914.

Cymru’n Cofio

Mae cynllun cenedlaethol, dan y teitl ‘Cymru’n Cofio’, yn cael ei lawnsio gan y Prif Weinidog yn Amgueddfa’r Milwr Cymreig yng Nghastell Caerdydd, heddiw.

Fel rhan o’r cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi y bydd £850,000 ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r rhaglen addysgol a fydd yn nodi canmlwyddiant y rhyfel.

Tra bydd Prydain gyfan yn cofio’r rhyfel, mae’r Farwnes Jenny Randerson yn gobeithio “cyflwyno cynllun cenedlaethol a fydd yn sail i ddigwyddiad tebyg ymhen canrif arall”.

“Rydym ni am ddod a’r genedl ynghyd i anrhydeddu dewrder y rhai a oedd yn ymladd yn y rhyfel a’u teuluoedd,” meddai wedyn.