Charles a Rebekah Brooks
Mae cyn-swyddog cyfathrebu David Cameron, Andy Coulson, a chyn-brif weithredwr News International, Rebekah Brooks wedi cyrraedd llys yr Old Bailey ar ddiwrnod cynta’ eu hachos llys.
Mae’r ddau wedi eu cyhuddo fel rhan o’r ymchwiliad i achosion o hacio ffonau symudol. Mae disgwyl i’r achos bara hyd at chwe mis.
Y cyhuddiadau
Mae Brooks, a Coulson, ill dau yn 45 oed, wedi eu cyhuddo o gynllwynio i gael mynediad at negeseuon ffôn.
Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o gynllwynio gyda chyn-bennaeth newyddion y News of the World, Ian Edmondson, 44,cyn-golygydd rheolwr y papur, Stuart Kuttner, 73, ac eraill i gael mynediad anghyfreithlon i negeseuon ffôn rhwng 3 Hydref 2000 a 9 Awst 2006.
Mae Rebekah Brooks hefyd wedi ei chyhuddo o gynllwynio gyda phobol eraill i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Mae’r cyhuddiad hwn yn gysylltiedig â thaliadau anaddas i swyddogion cyhoeddus, ac mae hi hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cynllwynio
Mae gŵr Rebekah Brooks, Charles Brooks, a chyn-bennaeth diogelwch News Ineternational, Mark Hanna, hefyd wedi eu cyhuddo o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae Coulson, sydd yn gyn-olygydd y News of The World, hefyd wedi ei gyhuddo o gynllwynio gyda chyn-olygydd brenhinol y papur, Clive Goodman, 56, a phobol eraill anhysbys i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Disgwylir i’r rheithgor gael ei ddewis heddiw cyn i’r erlyniad ddechrau cyflwyno tystiolaeth yn ddiweddarach yr wythnos hon.