Map y Gwasanaeth Tywydd o drywydd y storm St Jude
Mae dau o bobol wedi marw, mae cannoedd o filoedd o gartrefi heb drydan bellach, ac mae cymudwyr yn cyrraedd eu gwaith yn hwyr.

Dyna effeithiau y storm ddiweddara’ i daro gwledydd Prydain, gan greu hafog yn arbennig yng nghanolbarth a de Lloegr.

Fe gafodd dyn yn ei 50au ei ladd pan syrthiodd coeden ar ei gar yn Watford fore Llun. Ac yng Nghaint, fe laddwyd merch 17 oed pan gwympodd coeden ar ben y garafan yr oedd hi’n cysgu ynddi.

Ffigyrau’r storm

Ben bore heddiw, roedd yr awdurdodau’n dweud fod 40,000 o gartrefi heb drydan. Erbyn hyn, mae’r cyfanswm wedi codi i 200,000, yn ôl UK Power Networks.

Mae gwyntoedd wedi bod yn hyrddio ar gyflymder o bron iawn i 100 milltir yr awr dros Dde-orllewin Lloegr, De Lloegr, Dwyrain Lloegr a’r Midlands.

Mae miloedd o weithwyr wedi methu â chyrraedd eu gwaith mewn pryd, wedi i goed syrthio ar draciau rheilffyrdd. Mae gwasanaethau trenau a’r Underground yn Llundain wedi’u canslo.

Mae 130 o awyrennau wedi methu â chodi o faes awyr Heathrow, ac mae porthladd Dover wedi cau.