Village Bakery, Coedpoeth
Mae becws yn Wrecsam sy’n arbenigo mewn bwydydd heb gluten, ar fin creu 60 o swyddi newydd yn y gogledd-ddwyrain.
Mae Village Bakery wedi cael hanner miliwn o bunnau gan Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu eu cynlluniau i ehangu’r busnes.
Fe ddechreuodd y cwmni bobi yn Wrecsam yn 2011, ac mae trosiant y cwmni bellach wedi codi o £400,000 i £6m y flwyddyn.