Mae pobol a gafodd eu hachub gan wirfoddolwyr Bad Achub Moelfre yn gynharach eleni, wedi dechrau cronfa er mwyn codi sied newydd yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn.

Y nod ydi codi cyfanswm o £9m ar gyfer cwt i gadw’r cwch Tamar newydd.

Fe gafodd y rheiny sydd y tu ôl i’r ymgyrch godi arian, bob un, eu hachub gan y Bad Achub dros wyliau’r ha’ eleni.

Yn ôl Bad Achub Moelfre, roedd gwyliau ha’ 2013 ymysg yr hafau mwya’ prysur erioed yn ei hanes.