Bu farw Tadeusz Mazowiecki, prif weinidog democrataidd cynta’ Dwyrain Ewrop ar ôl comiwnyddiaeth.
Roedd yn 86 oed, ac wedi bod yn cynghori mudiad rhyddid Gwlad Pwyl, yn ogystal ag yn llatai heddwch yn Bosnia yn y 1990au.
Fe fu farw’r cyn-brif weinidog yn yr ysbyty yn gynnar fore Llun. Roedd wedi ei gludo yno ddydd Mercher yr wythnos ddiwetha’, dan dwymyn.