Mae dyn wedi cael ei ladd yn ne-ddwyrain Twrci gan daflegryn a gafodd ei danio o Syria.

Yn ôl adroddiadau, fe gafodd y bom ei thanio fel rhan o’r frwydr rhwng gwrthryfelwyr Cwrdaidd ac al Qaida.

Mae awdurdodau lleol wedi cau ysgolion ac wedi rhybuddio trigolion i aros gartre’.