Chris Brown
Mae disgwyl i’r canwr Americanaidd, Chris Brown, ymddangos gerbron llys yn ddiweddarach heddiw, wedi’i gyhuddo o ymosod ar rywun yn Washington dros y Sul.

Mae Chris Brown a dyn arall wedi cael ei cyhuddo yn dilyn digwyddiad yn gynnar fore Sul.

Fe gafodd y dioddefwr ei drin mewn ysbyty yn y brifddinas, ac mae bellach wedi gadael yr ysbyty. Dyw’r heddlu ddim yn fodlon rhannu mwy o fanylion am ei anafiadau.

Mae Chris Brown yn cael ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad yn y llys.