Storm yn taro arfordir de Lloegr
Mae mwy na 40,000 o dai heb drydan yng ngwledydd Prydain fore Llun, wedi storm sy’n achosi hafog hefyd i’r rheiny sy’n ceisio teithio i’w gwaith ar drenau.

Fe gafodd gwyntoedd yn mesur 100 milltir yr awr eu cofnodi nos Sul ac yn ystod oriau mân ddydd Llun.

Mae mwy na 40 o reilffyrdd wedi cael eu clirio wedi i goed syrthio arnynt, ac mae Network Rail yn disgwyl gorfod parhau â’r gwaith clirio trwy gydol y dydd heddiw.

Mae’r heddlu’n dweud i beth bynnag 125 o goed syrthio yn ardal Sussex erbyn 6.30yb, ac mae heddlu Caint wedi cofnodi 70 o goed.

Mae 38,000 o gwsmeriaid heb bwer yn siroedd Cernyw, Dyfnaint a Gwlad yr Haf, ac mae Western Power yn dweud fod 3,800 o gartrefi eraill hefyd heb drydan.

Mae nifer o gwmnïau trên wedi dweud na fyddan nhw’n rhedeg eu gwasanaethau tan 9 o’r gloch fore Llun – sy’n golygu ei bod hi’n amhosib i gymudwyr gyrraedd eu gwaith ar amser.

Mae cyfanswm o 141 o rybuddion llifogydd wedi eu cyhoeddi gan Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru a Lloegr.

Fe gafodd gwyntoedd o 99 milltir yr awr eu cofnodi ar Ynys Wyth am 5 o’r gloch fore Llun.