Llun lloeren o ganol Christchurch (cyhoeddus)
Mae’r awdurdodau yn Seland Newydd yn dweud bod y nifer sydd wedi marw yn naeargryn Christchurch wedi codi i 98.

Mae yna hefyd bryderon am fwy na 200 o bobl eraill sy’n dal i fod ar goll yn dilyn y trychineb ddydd Mawrth.

Erbyn hyn, mae’r awdurdodau’n cyfadde’u bod yn chwilio am gyrff yn hytrach na disgwyl dod o hyd i lawer o bobol yn fyw.

Fe ddywedodd yr heddlu bod hyd at 120 o bobol yn sownd o dan weddillion adeiladau lle’r oedd disgyblion o wledydd Asia yn dysgu Saesneg.

Mae’r achubwyr yn canolbwyntio ar ddod o hyd i bobol a allai fod yn fyw ar safle Canterbury Television lle’r oedd yr ysgol iaith. Ond maen nhw’n cydnabod bod y gobaith yn brin.

Mae Prif Weinidog Seland Newydd, John Key, wedi dweud bod 226 o bobol ar goll. “R’yn ni’n bryderus y gallai’r nifer sydd wedi marw fod yn llawer uwch,” meddai.

Fe ddywedodd bod y daeargryn yn drychineb cenedlaethol ac mae dadansoddwyr yn amcangyfri’ y bydd y gost yn codi i gymaint â $12bn.