Ffred Ffransis yn y mast
Roedd tri ymgyrchydd wedi ail-wneud gweithred 40 mlynedd yn ôl heddiw er mwyn protestio yn erbyn y “perygl enbyd” i ddyfodol S4C.
Roedden nhw wedi dringo mast teledu Carmel ger Cross Hands a chwifio baner oddi yno. Mae’r brotest wedi dod i ben erbyn hyn.
Yn ôl y Gymdeithas, roedd y tri wedi cael carchar am flwyddyn yn 1971 am ddringo mast teledu a thorri i mewn i stiwdios cwmni teledu Granada.
Y tri hynny oedd Ffred Ffransis, Goronwy Fellows a Myrddin Williams ac roedd eu protest nhw yn rhan o ymgyrch fwy gyda sawl mast wedi eu dringo’r un pryd.
Dyna oedd dechrau mawr yr ymgyrch tros sianel Gymraeg a arweiniodd yn y diwedd at sefydlu S4C yn 1982.
‘40 mlynedd yn ôl’
Yn ôl datganiad gan y Gymdeithas, roedd y tri wedi gweithredu er mwyn dangos bod y sianel “mewn peryg enbyd” unwaith eto.
“Caled iawn fu’r ymgyrch i ennill sianel deledu Gymraeg, ond hawdd iawn ei cholli trwy esgeulustod,” meddai Ffred Ffransis.
“Galwn ar bawb i ymroi i’r ymgyrch i sicrhau fod S4C yn aros yn sianel Gymraeg annibynnol, ac i wrthwynebu’r modd dirmygus y mae’r Llywodraeth Doriaidd yn Llundain wedi gwrthod apel unedig pobl Cymru am adolygiad teg o ddyfodol y sianel.
“Condemniwn y BBC am gynllwynio gyda’r llywodraeth i gymryd drosodd ein sianel. Ni allwn ni fforddio dychwelyd at y sefyllfa 40 mlynedd yn ôl lle roedd Y Gymraeg yn gorfod cystadlu am ei lle ar sianeli eraill.
“Enillwyd sianel Gymraeg gan bobl Cymru, ac fe fyddwn yn ei chadw, a’i datblygu’n endid aml-gyfryngol deilwng o’r 21ain ganrif.”