Swyddfa heddlu wedi'i llosgi yn Derma (Asiantaeth Xinhua)
Mae awyrennau ar eu ffordd i Libya ac oddi yno i ddod â dinasyddion Prydeinig o’r wlad lle mae ofn am ymladd ffyrnig rhwng lluoedd y Cyrnol Gaddafi a gwrthryfelwyr.
Mae un awyren a oedd wedi ei hurio gan gwmnïau olew wedi cyrraedd Llundain ac un arall yn aros i adael maes awyr y brifddinas, Tripoli.
Mae rhannau helaeth o ddwyrain y wlad bellach yn nwylo gwrthwynebwyr yr Arlywydd a rhannau o’r fyddin sydd wedi troi cefn arno.
Mae hynny’n cynnwys dinasoedd pwysig fel Derma a Tobruk, lle mae arweinwyr milwrol lleol wedi addo amddiffyn y bobol yn erbyn lluoedd Gaddafi.
Mae baner hen frenhiniaeth Libya – cyn i’r Cyrnol gipio grym yn niwedd yr 1960au – wedi bod yn cael ei chwifio yn Tobruk ac yn Derma mae adeiladau’r Llywodraeth wedi’u difrodi.
Mae yna straeon hefyd bod milwyr gwrthryfelgar yn y dwyrain yn dechrau crynhoi a’u bod am geisio “rhyddhau” Tripoli, lle mae milisia sy’n cefnogi Gaddafi’n rheoli’r strydoedd.
‘Rhy araf’ – beirniadu’r Llywodraeth
Mae’r Swyddfa Dramor wedi cael eu beirniadu am fod yn rhy araf i gyrraedd y 550 o Brydeinwyr sydd yno, ond mae awyren fawr Hercules bellach ar ei ffordd ond mae’r Llywodraeth wedi gwrthod cadarnhau bod milwyr arbennig yr SAS yn barod i fynd yno hefyd.
Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, ei fod am gynnal arolwg o drefniadau ar gyfer digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.
‘Galw i gyfri’ meddai Obama
Fe fydd trafodaethau rhyngwladol yn cael eu cynnal yng Ngenefa yn y Swistir i ystyried y datblygiadau yn Libya ac fe fydd yr Ysgrifennydd Gwladol, Hillary Clinton, yn mynd yno ar ran yr Unol Daleithiau.
Mae’r Arlywydd, Barack Obama, wedi rhybuddio y bydd y Cyrnol Gaddafi’n cael ei alw i gyfri am y marwolaethau yn ei wlad.