Trenau Arriva Cymru
Mae cwmni wedi rhybuddio teithwyr fod disgwyl oedi ar y rheilffyrdd yng Nghymru’r penwythnos yma oherwydd streic.
Fe fydd aelodau undeb Aslef yn mynd ar streic yn dilyn anghydfod gyda chwmni Trenau Arriva Cymru am dal ac amodau gwaith.
Dywedodd y cwmni na fydd eu gwasanaethau yn rhedeg ddydd Sul a Llun ac y bydd yna rywfaint o aflonyddwch ddydd Mawrth hefyd.
Dywedodd Peter Leppard, cyfarwyddwr gweithredoedd Arriva Trains Wales, fod y cwmni yn ymddiheuro i deithwyr am yr oedi.
“Mae rheolwyr Trenau Arriva Cymru ac undebau Aslef ac RMT wedi bod yn trafod ers misoedd er mwyn dod i gytundeb ar dal ac amodau gwaith gyrwyr,” meddai.
“Rydyn ni’n hynod siomedig eu bod nhw wedi gwrthod ein cynnig hael unwaith eto ac y bydd y streic yn mynd rhagddo.”
Dywedodd fod Arriva wedi cynnig cyflog o £39,117 i’r gyrwyr am wythnos 35 awr, pedwar diwrnod.
“Mae’r cytundeb hael yn gwobrwyo gyrwyr am newid eu hamodau gwaith ac yn caniatáu i’r cwmni gynnig gwasanaethau ehangach ar ddydd Sul,” meddai.
“Mae Trenau Arriva Cymru yn ymroddedig i ddatrys yr anghydfod dros dal ac yn annog Aslef i ganslo’r streic.”
Llef uwch Aslef
Mewn datganiad dywedodd Aslef fod y cyflog a gynigwyd i’w staff yn “anfoddhaol”.
Ychwanegodd y llefarydd bod y bleidlais o blaid streicio wedi ei gefnogi gan 70% o’r gyrwyr.
Mae cwmni Trenau Arriva Cymru yn eiddo i gwmni Almaenaidd Deutsche Bahn. Mae’n gweithredu mewn 244 o orsafoedd trenau ac yn cludo tua 65,000 o deithwyr bob dydd.