Russell Jones
Mae Cymru wedi mynd yn wlad farus ac mae bywyd wedi dirywio yma ers i bobol roi’r gorau i dyfu eu bwyd eu hunain.
Dyna farn Russell Jones, seren rhaglen Byw yn yr Ardd S4C, sy’n ymddangos yn y cyntaf o bedair rhaglen cyfres newydd Byw yn y Byd heno ma.
Yn y rhaglen mae Russell Jones yn teithio i Nairobi, prifddinas Kenya, ac ardal Mbeere yng ngorllewin y wlad.
Yna mae’n teithio heibio mynydd Kilimanjaro i Danzania ac i dir y Maasai a llwyth y Sonjo.
Mae’n ymweld â sawl prosiect elusennol sy’n addysgu trigolion yr ardal sut i fyw yn hunan cynhaliol a goroesi cyfnodau hir o sychdwr.
Dywedodd fod ei brofiad yn Affrica wedi agor ei lygaid i rai o’r problemau sy’n bodoli gartref ar ei batsh yn Rhosgadfan.
“Roedd pawb mor hapus, eisiau gweld pobl yn llwyddo ac yn fy helpu i arddio. Does neb yma pan ’dw i’n plannu fan hyn, neb yn cael sgwrs ochr arall i wal yr ardd,” meddai wrth Golwg 360.
“Roedd y bobl yn Affrica yn glen ac yn rhannu bob dim. Ond dydi pobl fan hyn ddim yn gwneud hefo’i gilydd mwyach.
“Dydi Cymru ddim fel oedd o pan oni’n fach. Dydi pobl ddim yn gwneud pethau hefo’i gilydd ddim mwy. Dw i wedi diflasu.
“Mae pobl yn mynd i Tesco yn lle’r siopau bach, ac mae hynny wedi lladd Rhosgadfan.
“Dydi pobl ddim yn gweld y difrod tan mae o wedi digwydd. Mae safon ein bwyd ni’n dirywio ar ôl i bobl stopio tyfu eu bwyd ei hunain.
“Fe welais i bobl yn dioddef yn Affrica. Doedd dim glaw ac roedd gwynt poeth yn lladd petha. Ond, dw i’n gweld ein bod ni mor farus yn y wlad yma.
“Os ti’n gwisgo’r dillad anghywir, neu’n gyrru’r car anghywir, wnaiff rhai pobl ddim sbïo arnat. Mae popeth yn cael ei fewnforio. Mae’n digalonni rhywun.”
‘Ysbrydoli’
Serch hynny, dywedodd fod ei brofiad yn Affrica wedi’i ysbrydoli i geisio newid pethau yn Rhosgadfan.
“Dw i’n trio tyfu pethau fy hun ac yn trio ysbrydoli pobl eraill i wneud hynny,” meddai. “Eu colled nhw ydi o os nad ydyn nhw. Alla i ddim eu gorfodi nhw.
“Mae yna randiroedd all pobl eu defnyddio. Mae llysiau’n tyfu fel chwyn bron a bod. Maen nhw’n hawdd iawn i’w tyfu.
“Mae’n rhaid i ni beidio rhoi pres i’r petha mawr ’ma a dechrau tyfu ein pethau ein hunain.
“Unwaith mae’r sgiliau wedi mynd, dyna ni wedyn. Fyddwn ni wedi mynd yn rhy bell,” meddai cyn ychwanegu ei fod yn “gobeithio y bydd Cymru yn deffro o’r nonsens ‘ma” a dechrau “rhannu pethau a thyfu ein bwyd ein hunain”.
Mae’r gyfres Newydd gan Cwmni Da yn dechrau heno ar S4C am 20:25