Y Titanic
Mae disgwyl i’r ffidl, a gredir oedd yn cael ei chwarae ar fwrdd y Titanic wrth iddi suddo, werthu am £300,000 mewn ocsiwn ddydd Sadwrn.
Bydd y ffidl yn cael ei gwerthu gan arwerthwyr Henry Aldrige & Son yn Wiltshire sy’n arbenigo mewn eitemau o’r Titanic.
Credir bod y ffidl wedi cael ei chwarae gan Wallace Hartley, arweinydd y band ar fwrdd y llong, a fu farw ynghyd â 1,500 o bobl eraill wrth iddi suddo yn 1912.
Ond mae amheuon am ddilysrwydd y ffidl er i Henry Aldrige & Son wario miloedd dros gyfnod o saith mlynedd i gynnal profion fforensig i brofi bod yr offeryn wedi bod ar fwrdd y llong.
Os caiff y ffidl ei werthu, yr offeryn fydd y darn mwyaf gwerthfawr o eitemau’r Titanic.