Cafodd dynes 93 oed ei chludo i’r ysbyty bore ma yn dilyn tân yn ei fflat ym Mharc Rhoslan, Bae Colwyn.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru alwad am ychydig cyn 4yb ac fe gafodd tair injan dân eu hanfon i’r safle. Mae’r fflat wedi ei ddifrodi.

Roedd rhaid i tua 40 o bobol sy’n byw yn y  fflatiau adael yr adeilad wedi i fwg dreiddio drwy’r waliau. Aed ag un ferch i’r ysbyty i gael ei thrin am sioc.

Mae’n debyg mai eitem, tebyg i potel dwr poeth, oedd wedi ei adael yn rhy hir mewn meicrodon oedd achos y tân. Dywed y gwasanaeth tan eu bod nhw wedi derbyn nifer o adroddiadau ynglŷn ag achosion tebyg yn y gorffennol ac maen nhw’n cynghori pobol i fod yn wyliadwrus ac i ddarllen y canllawiau yn ofalus.