Mae Nwy Prydain wedi cyhoeddi y bydd prisiau trydan a nwy yn codi fis nesaf.

Cyhoeddodd y cwmni ynni y bydd pris trydan yn cynyddu 10.4% a nwy yn codi 8.4% o 23 Tachwedd.

Dywed Nwy Prydain, sy’n perthyn i gwmni ynni Centrica, y bydd biliau ynni cwsmeriaid yn cynyddu £123 i £1,444 y flwyddyn, yn seiliedig ar ffigurau Ofgem.

Nwy Prydain yw’r ail o’r chwe chwmni ynni mawr i gyhoeddi eu bod yn codi eu prisiau ar ôl i SSE gyhoeddi cynnydd o 8.2% o 15 Tachwedd.

Mae’r Ysgrifennid Ynni Ed Davey wedi annog cwsmeriaid i adael y cwmni a phrynu eu trydan a nhw gan gwmnïau eraill.  Dywedodd y byddai’n rhaid i Nwy Prydain gyfiawnhau’r cynnydd i’w cwsmeriaid.