Dafydd Elis-Thomas
Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cefnogi galwadau i Gymru gael pwerau cyfartal â rhannau eraill o’r DU o ran ynni a pholisi cynllunio.

Mewn adroddiad sy’n dilyn  adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd, roedd y mwyafrif o aelodau’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru, sef y dylai caniatâd ar gyfer cynhyrchion ar y tir ar raddfa fawr, a chynhyrchion ar y môr sy’n gysylltiedig ag ynni gael ei ddatganoli i Gymru.

Roedd y pwyllgor yn pryderu bod Llywodraeth Prydain wedi gwrthod cynigion o’r fath mewn adroddiadau ar gyfer rhan 2 o waith Comisiwn Silk, sy’n edrych ar bwerau i Gymru.

Aeth yr adroddiadau gam ymhellach wrth ofyn i’r cyfrifoldeb dros ddatblygiadau sy’n gysylltiedig â Phrosiectau Seilwaith Strategol Cenedlaethol gael ei gymryd oddi wrth awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru.

Pryderon

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: “Mae cyflawni’r ddelfryd o gynhyrchu ynni fforddiadwy a chynaliadwy, sy’n diwallu gofynion y byd modern yn ofnadwy o anodd.

“Ond rhwystrir y dasg hon ymhellach yng Nghymru, yn rhinwedd y ffaith nad oes ganddi’r un pwerau, na phwerau tebyg, ar gael iddi â rhannau eraill o’r wlad.

“Yr hyn sy’n ein pryderu’n fawr yw cred Llywodraeth Prydain mai’r Ysgrifennydd Gwladol a ddylai gael y pwerau o ran Prosiectau Seilwaith Strategol Cenedlaethol yn y pen draw, a thybed a fyddai’n defnyddio dull tebyg o ran y cenhedloedd datganoledig eraill?”

Ffracio

Bu’r Pwyllgor hefyd yn edrych ar ba mor ymarferol yw cynhyrchu ynni drwy nwy anghonfensiynol, gan nodi cred Llywodraeth y DU bod posibilrwydd y gallai nwy siâl ddarparu mwy o sicrwydd, twf a swyddi o ran ynni i’r DU.

Daeth i’r casgliad nad yw datblygu diwydiant ynni arall sy’n ddrud ar garbon yn briodol ar hyn o bryd, ac nad yw’n gyson ag ymrwymiadau Prydain i leihau allyriadau.

Fodd bynnag, o ystyried safbwynt Llywodraeth y DU a’r ffaith bod trwyddedau chwilio eisoes wedi’u rhoi ar gyfer rhannau o Gymru, roedd y Pwyllgor o’r farn ei bod yn bwysicach fyth erbyn hyn fod Llywodraeth Cymru yn dilyn esiampl Lloegr ac yn cyhoeddi canllawiau cynllunio manwl i fynd i’r afael â cheisiadau cynllunio ar gyfer chwilio am nwy anghonfensiynol, a’i ddefnyddio.

Ychwanegodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC:  “Rydym hefyd yn pryderu nad yw’r materion diogelwch sy’n gysylltiedig â thorri hydrolig, neu ffracio, wedi cael sylw digonol, ac rydym o’r farn ei bod yn bwysig bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynegi ei safbwynt yn glir ar unwaith.”

“Mae’r Pwyllgor wedi penderfynu parhau i ymchwilio i fater polisi ynni a chynllunio drwy gydol cyfnod y Cynulliad presennol.”