Y diweddar Tom Clancy
Bu farw’r awdur ias a chyffro, Tom Clancy, yn 66 mlwydd oed.

Dywedodd ei gyhoeddwr, Grŵp Penguin, bod awdur ‘The Hunt for Red October’ a nofelau poblogaidd eraill wedi marw ddoe yn Baltimore, yr Unol Daleithiau. Dyw achos ei farwolaeth ddim yn hysbys ar hyn o bryd.

Cyhoeddodd Tom Clancy ei lyfr cyntaf, ‘The Hunt for Red October’, yn 1984. Gwerthodd y llawysgrif i’r cyhoeddwr cyntaf iddo gysylltu â nhw, y Naval Institute Press, a oedd erioed wedi cyhoeddi nofel ffuglen o’r blaen.

Mae nofelau enwog eraill ganddo’n cynnwys ‘Red Storm Rising’, ‘Patriot Games’ a ‘Clear and Present Danger’.

Dywedodd Tom Clancy mai ei freuddwyd oedd cyhoeddi llyfr a fyddai’n ddigon da i fod ar gatalog y Library of Congress. Cafodd llawer o’i nofelau eu trosi i ffilm.