Katherine Jenkins
Mae Katherine Jenkins a Catrin Finch ymysg y cerddorion byd-enwog sydd wedi’u henwebu ar gyfer Gwobrau BRIT Clasurol fydd yn cael eu cyhoeddi heno.

Mae’r ddwy Gymraes wedi cael eu henwebu yn yr un categori sef Albwm y Flwyddyn Classic FM, Katherine Jenkins gyda ‘This Is Christmas’ (Warner Music Entertainment), a Catrin Finch a John Rutter gyda ‘Blessing’ (Deutsche Grammophon).

Bydd y seremoni  wobrwyo’n cael ei chynnal yn Neuadd Frenhinol Albert a’i chyflwyno gan Myleene Klass, gyda sêr clasurol o bob cwr o’r byd yn bresennol.

Mynd am y drydedd

Mae Katherine Jenkins eisoes wedi ennill gwobr y categori yma ddwywaith, yn 2005 gyda ‘Second Nature’ a 2006 gyda ‘Living the Dream’, y ddynes gyntaf i ennill y wobr ddwy flynedd yn olynol.

Fe berfformiodd hi fel rhan o’r seremoni hefyd nôl yn 2009, gan ganu deuawd gyda’r tenor Sbaeneg Placido Domingo.

Aeth albwm ‘Blessing’ Catrin Finch a John Rutter i frig y Siartiau Albwm Clasurol Arbenigol ym mis Rhagfyr 2012.

Cystadleuaeth gref

Mae rhai o’r artistiaid fydd yn herio’r ddwy Gymraes yn y categori Albwm y Flwyddyn yn cynnwys y tenor Andrea Bocelli gyda ‘Opera’, y pianydd Lang Lang gyda ‘The Chopin Album’, ac Andre Rieu gyda ‘Magic of the Movies’.

Bydd Lang Lang hefyd ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio ar y noson, gan chwarae deuawd gyda Nicola Benedetti, ac fe fydd hi’n derbyn y Wobr Artist Rhyngwladol.

Yn ystod y seremoni, fe fydd gwobr Cyfraniad Anhygoel i Gerddoriaeth yn cael ei gyflwyno i’r cyfansoddwr Hans Zimmer, yn ogystal â gwobr Cyrhaeddiad Oes i’r diweddar Luciano Pavarotti.