Y gwrthryfel yn 2011
Mae llywodraeth Islamaidd Tunisia wedi rhoi’r gorau iddi er mwyn cynnal trafodaethau efo’r gwrthbleididau gyda’r bwriad o greu llywodraeth amhleidiol dros dro.

Yn ôl llefarydd ar ran un o brif undebau’r wlad, daeth misoedd o drafod efo’r llywodraeth i ben heddiw.

Dywedodd Bouali Mbarki o undeb yr UGTT y bydd yna dair wythnos o drafod rwan cyn i’r llywodraeth dros dro ddod i rym.

Cynnwrf

Mae llawer o gynnwrf wedi bod yn Tunisia ers i’r llywodraeth fu mewn grym ers degawdau gael ei dymchwel yn Ionawr 2011.

Dyma’r gwrthyfel gychwynodd ‘gwanwyn yr Arabiaid’ a’r cynnwrf led led y gwledydd Arabaidd arweiniodd at ddymchwel llywodraethau hefyd yn yr Aifft a Libya.

Aeth pethau o ddrwg i waeth yn Tunisia ar ôl i un o arweinwyr y gwrthbleidiau, Mohammed Brahmi gael ei saethu yn farw o flaen ei deulu ym mis Gorffennaf.

Fe wnaeth dwsinau o gyfreithwyr ymddiswyddo yn sgil y llofruddiaeth gan ei gwneud hi’n amhosib i greu cyfansoddiad newydd ar gyfer y wlad.