Milwyr ger y ganolfan siopa adeg yr ymosodiad
Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau bod person arall o wledydd Prydain wedi marw yn yr ymosodiad ar ganolfan siopa yn Nairobi.
Dyw’r person ddim wedi cael ei enwi hyd yn hyn ac mae’r Swyddfa Dramor yn credu y bydd nifer y Prydeinwyr anafwyd neu laddwyd yn yr ymosodiad yn cynyddu yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae’r awurdodau yn gwybod eisioes bod 67 o bobl wedi cael eu lladd yn y gyflafan barodd bedwar niwrnod yng nghanolfan Westgate.