Mae’r tywydd poeth diweddar yn golygu ei bod hi wedi bod yr haf prysuraf i Gymdeithas y Badau Achub (RNLI) eleni ers 24 o flynyddoedd.
Cafodd y badau eu lansio 4,300 o weithiau led led gwledydd Prydain ac fe alwyd y criwiau i 14,814 o ddigwyddiadau.
Gorsaf ‘Tower’ ar afon Tafwys oedd yr orsaf brysuraf. Cafodd y bad ei lansio yno 176 o weithiau.
Gorsaf Southend-on-Sea oedd yr orsaf glan y môr brysuraf.
Achub o Lifogydd
Mae gan yr RNLI hefyd dîm o arbenigwyr i achub pobl sydd ynghanol llifogydd.
Mae’r tîm yn cael ei anfon i bob cwr o wledydd Prydain yn ôl y galw ac mae nifer o achubwyr ar eu ffordd i’r Unol Daleithau i gymeryd rhan mewn ymarferiad achub o lifogydd yng Ngogledd Carolina.
Mae pedwar o Gymru ymhlith y 38 sydd wedi hedfan yno ar gyfer yr ymarferiad.
Mae Bryn Harrison yn dod o Aberystwyth, Paul Eastment o Borthcawl a Timothy Brodie a Matt Croft o Lanelwy.