Cafodd yr ail o dri phlac i gofio’r bardd Waldo Williams ei dadorchuddio yn Ysgol Botwnnog ar Benrhyn Llŷn neithiwr.
Cofir am Waldo yn bennaf fel bardd o Sir Benfro ond yn ystod y 1940au fe symudodd i’r gogledd i weithio fel athro yn Ysgol Botwnnog.
Cafodd y plac cyntaf ei dadorchuddio yng nghartref teuluol Waldo yn Rhosaeron yn Llandysilio, Sir Benfro wythnos yn ôl a bydd y plac olaf yn cael ei ail-dadorchuddio y tu allan i Archifdy newydd y sir ar safle hen ysgol Prendegast, Hwlffordd.
Codwyd yr Archifdy newydd ar safle Tŷ’r Ysgol lle treuliodd Waldo ei flynyddoedd cynnar.
Fe wnaeth Gareth Miles draddodi darlith flynyddol Waldo Williams hefyd ym Motwnnog neithiwr. Ei destun oedd ‘Waldo Williams: dyn digri’ a heddiw (Sadwrn) cynhaliwyd taith yn cychwyn o Neuadd Mynytho i ymweld â llefydd perthnasol i fywyd Waldo tra roedd yn athro ym Motwnnog.