Yr Iarll Dracula
Bydd addasiad theatr newydd o Dracula’n ymweld â Venue Cymru yn Llandudno ar y 23ain a’r 24ain o Hydref.
Cafwyd y perfformiad cyntaf gan gwmni theatr Blackeyed yn Bracknell neithiwr, gan ddechrau taith o gwmpas ynysoedd Prydain fydd yn para tan fis Mawrth 2014.
Y ddau berfformiad yn Llandudno fydd unig ymweliad y theatr â Chymru yn ystod y daith.
Cadw’n driw i’r gwreiddiol
Gan dynnu ar nifer o fathau o adloniant poblogaidd oedd yn bodoli ar y pryd, mae’r perfformiad hefyd yn ceisio cadw’n driw i naws Fictorianaidd gwreiddiol y nofel.
John Ginman gafodd y dasg o addasu gwaith enwog Bram Stoker, gyda cherddoriaeth fyw arbennig gan Ron McAllister, ac yn cadw llygad barcud ar y cyfan mae’r Cyfarwyddwr Eliot Giuralarocca.
“Roeddwn i’n awyddus i ddefnyddio dulliau theatrig oedd yn boblogaidd ar y pryd,” meddai Eliot. “Mae gennym ni berfformwyr creadigol ac amryddawn all ganu, symud yn dda a chwarae offerynnau.
“Mae gennym ni bopeth rydyn ni angen i greu rhywbeth cyffrous, cofiadwy a meddylgar. Rwy’n siŵr y bydd at ddant y gynulleidfa!”
Pum aelod sydd i’r cast, gyda Paul-Kevin Taylor yn chwarae rhan Dracwla a’r Athro Van Helsing. Mae gan Will Bryant ddwy rôl hefyd fel Jonathan Harker a Renfield. Bydd Gareth Cooper yn chwarae rhan Dr. Seward, Katrina Gibson fydd Lucy Westenra, a rhan Mina Murray fydd un Rachel Winters.
Cafodd nofel wreiddiol Dracula gan Bram Stoker ei chyhoeddi yn 1897, ac ers hynny mae wedi’i haddasu yn llu o ffilmiau a dramâu.