Meredydd Evans - "mae angen gwleidydd â thipyn o weledigaeth"
Mae arbenigwr ar y gân werin yng Nghymru yn galw ar y Prif Weinidog i fuddsoddi mwy o arian mewn cerddoriaeth draddodiadol.

Yn ôl y Dr Meredydd Evans , mae Llywodraeth Cymru yn colli cyfle i fanteisio ar draddodiadau unigryw a fyddai’n gallu denu ymwelwyr yn ogystal â chaniatau i gerddorion wneud bywoliaeth o’u crefft.

“O’r ail ganrif ar bymtheg tuag at ddiwedd y ddeunawfed ganrif mae yna gorff o ganu sy’n cyfuno mesurau rhydd a’r gynghanedd,” meddai Merêd. “Chewch chi ddim o hynna yn unlle arall yn y byd.

“Petai ryw wleidydd â dipyn o weledigaeth ganddo fo yn gweld hyn, mi fedr o fod yn sefydlu economi yn seiliedig ar y delyn, cerdd dant a cherddoriaeth i ymwelwyr.”

Hwb i gefn gwlad

Mae Meredydd Evans hefyd yn credu y byddai arian gan Lywodraeth Cymru yn dod a bywoliaeth i gefn gwlad ac yn sylfaen i’r economi.

Mae potensial i hyrwyddo traddodiadau cerddorol mewn mannau cyhoeddus, meddai Meredydd Evans, fel sy’n digwydd yn Iwerddon a Llydaw – dwy wlad sydd wedi gweld budd mawr mewn canu gwerin dros y blynyddoedd.

“Mae yma gyfle i artistiaid wneud bywoliaeth o wneud gigs, fel mae Bryn Fôn a Gai Toms wedi bod yn ei wneud,” meddai wedyn.

“Ac fe ddylid sefydlu diwydiant traddodiadol a fyddai’n arwain at fwy o grwpiau yn gallu byw yn broffesiynol.”