Mae dyn o Afghanistan, yn gwisgo iwnifform y lluoedd diogelwch, wedi troi ar luoedd NATO yn nwyrain y wlad, gan ladd un milwr.
Mae’r Taliban eisoes wedi dweud mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosoiad, a ddigwyddodd yn nhalaith Paktia. Dyma’r ail dro o fewn yr wythnos i rywun oedd yn cael ei ystyried “ar y tu mewn” i droi ar ei gyd-filwyr.
Mae NATO wedi ymateb trwy ddweud fod yr ymosodwr wedi ei ladd, ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi mwy o wybodaeth. Mae’r digwyddiad bellach yn destun ymchwiliad.
Yn y cyfamser, fe anfonodd llefarydd y Taliban, Zabihullah Mujahid, neges destun at y cyfryngau, yn dweud mai’r Taliban oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.
Fe ddigwyddodd y saethu mewn gwersyll milwrol yn ardal Gerda Sarai.