Vladimir Putin (PA)
Mae Arlywydd Rwsia wedi rhybuddio gwledydd y Gorllewin rhag mynd ar eu liwt eu hunain wrth ymosod ar Syria.

Ond doedd Vladimir Putin ddim yn gwrthod yn llwyr y syniad o ymosodiadau i gosbi’r Arlywydd Assad, pe bai yna dystiolaeth fod ei luoedd wedi defnyddio arfau cemegol.

Roedd yn siarad cyn dechrau Uwch Gynhadledd gwledydd cyfoethog y G20 yn St Petersburg, gyda’r disgwyl mai’r argyfwng yn Syria fydd yn mynd â’r prif sylw.

Yn ei unig gyfweliad cyn y cyfarfodydd, fe ddywedodd yr Arlywydd Putin ei fod yn gobeithio cael trafodaethau “o ddifri” gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama.

Senedd yr Unol Daleithiau’n gosod amodau

Yn y cyfamser, mae Senedd yr Unol Daleithiau wedi gosod cynnig i’w drafod yn cefnogi’r egwyddor o ymosod ar Syria, ond gydag amodau pendant.

Fe fyddai’r cynnig yn gwahardd defnyddio milwyr yn Syria ac yn gosod terfyn amser ar gyfer lymosod – 60 diwrnod i ddechrau, a 30 diwrnod pellach gyda chaniatâd y Senedd.

Fe fydd y penderfyniad yn cael ei wneud yr wythnos nesa’.