Yvette Cooper gyda swyddogion heddllu (o'i gwefan swyddogol)
Mae llai o bobol yn mynd i’r llys tros achosion o drais yn y cartref er bod nifer yr ymosodiadau’n cynyddu yng Nghymru a Lloegr.
Wrth dynnu sylw at y ffigurau, roedd y Blaid Lafur yn beio Llywodraeth Prydain am dorri ar wario ar yr heddlu ac yn beirniadu’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, am fethu â rhoi digon o gymorth i ddioddefwyr.
Ers 2010, mae 13% yn llai o achosion wedi cael eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron yn ôl y ffigurau, sydd wedi dod i’r amlwg trwy gais rhyddid gwybodaeth.
Hyn er bod 10% yn fwy o achosion wedi dod i sylw’r heddlu yn ystod yr un cyfnod.
Rhwng 2007 a 2010, roedd cynnydd o 23% wedi bod yn yr achosion a anfonwyd at y Gwasanaeth Erlyn.
‘Ofnadwy’ meddai Llafur
“Mae’r ffigyrau yma yn ofnadwy,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref Cysgodol, Yvette Cooper.
“Dywedodd Theresa May yn 2010 ei bod am ‘gymryd cyfle unigryw i wneud newidiadau real’ i ddelio â thrais yn y cartref.
“Yn hytrach mae’r ffigyrau yn dangos ei bod wedi methu’n ddifrifol a bod pethau yn mynd am yn ôl yn hytrach nag ymlaen.
“Mae’n golygu fod pump troseddwr a fyddai wedi cael eu herlyn cyn hyn, bellach yn osgoi cael eu cosbi.”