Sydney, Awstralia
Mae’r heddlu yn Awstralia sy’n chwilio am ddyn ifanc o Brydain aeth ar goll yng ngwylltiroedd y  wlad chwe wythnos  yn ôl, wedi darganfod corff.

Mae’r heddlu yn credu eu bod wedi darganfod corff Gary Tweddle, 23, sydd wedi bod ar goll ers Gorffennaf 17, mewn ardal o dir gwyllt ger Leura ar ôl iddo fynychu cynhadledd yn y Blue Mountains i’r gorllewin o Sydney.

Roedd Gary Tweddle wedi ffonio ei gyd-weithwyr ar Orffennaf 17 i ddweud ei fod ar goll yn y gwyllt a bu ymdrech fawr i chwilio amdano.

Dywedodd Joanne Elliott o heddlu lleol y Blue Mountains: “Tua 4yh, roedd yr ambiwlans awyr yn hedfan dros y mynyddoedd pan welson nhw gorff.”

Ychwanegodd ei bod yn amhosib i’r ambiwlans awyr lanio a’u bod yn bwriadu mynd yn ôl i’r safle yn y bore gyda’r heddlu lleol i geisio adnabod y corff yn swyddogol.

Mae teulu Gary Tweddle wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf. Roedd ei fam, Carol Streatfield, sydd hefyd yn byw yn Awstralia, wedi bod yn rhan o’r ymdrech gan oddeutu 1,000 o bobl i chwilio am ei mab.

Roedd Gary Tweddle yn wreiddiol o Reading ac wedi symud i fyw i Awstralia gyda’i deulu.