Llys y Goron Abertawe
Mae tad wedi ymddangos gerbron llys i wadu achosi marwolaeth ei fab wyth oed trwy esgeulustod bwriadol.

Plediodd Glynn Seabridge, 46, o Eglwyswrw, Sir Benfro, yn ddieuog yn Llys y Goron Abertawe heddiw ac mae disgwyl i’r achos yn ei erbyn cychwyn fis Mawrth.

Bu farw Dylan Mungo Seabridge, yn ei gartref ar Ragfyr 6, 2011 ac mae rhai adroddiadau yn honni ei fod wedi marw o’r sgyrfi, clefyd sy’n cael ei achosi o ddiffyg Fitamin C.

Mae mam Dylan Mungo Seabridge, Julie Seabridge, 46, hefyd yn wynebu’r un cyhuddiad er nad ydi hi wedi cyflwyno ple hyd yn hyn. Nid oedd hi yn bresennol yn y gwrandawiad.