David Cameron
Mae bron i dri chwarter o bobl ym Mhrydain yn credu bod Aelodau Seneddol wedi gwneud y peth iawn drwy wrthwynebu ymyrraeth filwrol posib yn Syria, yn ôl pôl piniwn.
Roedd yr arolwg hefyd wedi dangos bod tri chwarter o bobl hefyd yn credu na fyddai penderfyniad David Cameron i ddiystyru gweithredu’n filwrol yn dilyn y bleidlais yn niweidio’r “berthynas arbennig” gyda Washington.
Ond roedd bron i hanner y rheiny fu’n cymryd rhan yn y pôl piniwn yn credu y byddai canlyniad y bleidlais “yn niweidio enw da Prydain.”
Roedd ’na wahaniaeth barn ynglŷn â’r ffordd roedd y Prif Weinidog wedi delio gyda’r sefyllfa gyda 42% yn anghytuno a 40% yn cytuno.
Roedd penderfyniad arweinydd Llafur i wrthwynebu’r Llywodraeth wedi cythruddo Downing Street ac mae’n ymddangos bod 39% yn anghytuno gyda’r modd yr oedd Ed Miliband wedi delio gyda’r sefyllfa a 33% yn cytuno.
Cafodd 1,000 o bobl yng Nghymru, Lloegr a’r Alban eu holi ar gyfer y pôl piniwn gan ICM ar gyfer y BBC rhwng Awst 30 a Medi 1.
‘Dim bwriad i gynnal ail bleidlais’
Yn y cyfamser mae llefarydd ar ran David Cameron wedi dweud nad oes gan y Llywodraeth “unrhyw fwriad” i gynnal ail bleidlais yn y Senedd ynglŷn â chymryd camau milwrol yn Syria.
Mae’r Prif Weinidog wedi bod dan bwysau i gynnal ail bleidlais ar ôl i Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau John Kerry ddweud bod gan Washington dystiolaeth bod nwy sarin wedi cael ei ddefnyddio mewn ymosodiad yn Namascus ar 21 Awst. Mae disgwyl i’r Gyngres bleidleisio ynglŷn ag ymyrraeth filwrol yn Syria wythnos nesaf.
Roedd Maer Llundain Boris Johnson wedi awgrymu bore ma y gallai’r Llywodraeth ail-ystyried cynnal pleidlais arall petai dystiolaeth newydd yn dod i law.
Ond dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg nad oedd yn rhagweld y byddai hynny’n digwydd.