Cafodd pedwar o bobl eu hanafu mewn damwain rhwng pedwar beic modur a dau gar ym Mhowys bnawn ddoe.
Cafodd dau o bobl eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol yr Amwythig yn dilyn y ddamwain ar ffordd yr A470 ger Llandinam. Bu’r ffordd ynghau am chwe awr wrth i’r heddlu ymchwilio i’r ddamwain.
“Rydym yn ceisio darganfod beth oedd achos y ddamwain,” meddai’r Arolygydd Jon Tatton o Heddlu Dyfed Powys.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain i gysylltu â nhw.