Mae tri o blant wedi cael eu trywanu i farwolaeth a deuddeg wedi eu hanafu wrth i ddyn arfog fynd yn wyllt ar fws yn China.

Dywedodd swyddogion heddlu fod y dyn yn y ddalfa ar ôl y digwyddiad yn ninas Anyang ond nad ydyn nhw’n gwybod beth oedd ei gymhelliad.

Mae’n ymddangos mai babi a dau fachgen oedd y rhai a gafodd eu lladd ond does dim cadarnhad eto os oedd y dyn wedi eu targedu’n bwrpasol.

Mae beirniadaeth wedi bod am wendidau yn systemau iechyd meddwl y wlad sy’n golygu nad yw pobol sy’n fygythiad yn cael eu trin a bod ymosodwyr yn y gorffennol wedi targedu plant yn benodol er mwyn dial.

Cafodd chwech o weithwyr o adran deuluoedd y llywodraeth eu trywanu ym mis Gorffennaf.